Trosolwg
Biolegydd y môr ydw i, yn ymchwilio i'r ecosystemau cymhleth sy'n gysylltiedig â microalgâu a microblastigion. Fy nod yw deall eu cymunedau microbaidd a'u rhyngweithiadau.
Mae microalgâu'n gyfrifol am sefydlogi 50% o garbon byd-eang, ac mae ganddynt botensial enfawr hefyd ym maes datblygiadau biodechnolegol. Mae cysylltiad annatod rhwng eu hiechyd ym myd natur ac mewn lleoliadau cymhwysol a'u bacteria cysylltiedig. O ganlyniad, mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar archwilio'r cysylltiadau hyn, â'r nod o ddatgelu'r egwyddorion sylfaenol sy'n llywio eu rhyngweithiadau. Fy nod yn y pen draw yw hwyluso integreiddio microalgâu mewn systemau cynhyrchu biolegol cynaliadwy.
Yn ogystal â'm hymchwiliadau i ficroalgâu, rwy'n ymrwymedig iawn i ddeall y dirwedd ficrobaidd sy'n gysylltiedig â microblastigion. Mae'r llygryddion microsgopig hyn sy'n hollbresennol yn peri bygythiadau sylweddol i fywyd ac ecosystemau'r môr. Drwy fy ngwaith, rwy'n ceisio deall y ddynameg gymhleth rhwng microblastigion a chymunedau microbaidd, gan ymdrechu i liniaru eu heffeithiau niweidiol a meithrin atebion biodechnolegol newydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n hafan: https://www.sonnenscheinlab.com/