An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite

Dr Gethin Matthews

Uwch-ddarlithydd
History

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606536

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
124
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Gethin Matthews yn uwch-ddarlithydd yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe, lle mae ef wedi bod ers 2011. Edrychodd ei draethawd PhD ar hanes y Cymry yn y Rhuthrau Aur, ond am y degawd diwethaf mae wedi bod yn ymchwilio effaith y Rhyfel Mawr ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru. Cynigodd y gyfrol a olygodd, Creithiau (2016), asesiad heriol o ddylanwad y rhyfel ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru. Ei lyfr diweddaraf, a gyhoeddwyd yn 2018, yw Having a Go at the Kaiser: A Welsh Family at War sy’n edrych ar effaith y rhyfel ar dri brawd a’u teulu, yn seiliedig ar dros gan o’u llythyrau. Cyfrannodd nifer o erthyglau at gyhoeddiadau academaidd a phoblogaidd yn ystod canmlwyddiant y Rhyfel Mawr, a thra bod y diddordeb hynny’n parhau, mae ef hefyd yn troi ei sylw yn ôl at gwestiwn ymglymiad y Cymry yn y Rhuthrau Aur ac mewn mentrau ymerodrol.

Meysydd Arbenigedd

  • Cymdeithas a diwylliant Cymru adeg y Rhyfel Mawr
  • Cofebau i’r Rhyfel Mawr
  • Cymru a’r Ymerodraeth Brydeinig
  • Ymfudo o Gymru a chymunedau Cymraeg dramor
  • Rhuthrau Aur
  • Hanes llafar am Gymry yn y Rhyfeloedd Byd
  • Rhaglenni dogfen hanesyddol ar y teledu

Uchafbwyntiau Gyrfa