Dr Gareth Dunseath

Uwch-swyddog Ymchwil
Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
114
Llawr Gwaelod
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Gareth Dunseath yn Uwch Swyddog Ymchwil gyda Grŵp Ymchwil Diabetes, yn Ysgol Feddygaeth  Prifysgol Abertawe. Gareth hefyd yw rheolwr Ymarfer Clinigol a Labordy Da, y cyfleuster labordy canolog achrededig sydd yn Adeilad Grove. Enillodd Gareth Ddoethuriaeth am waith dan y teitl,  ‘pathoffisioleg anoddefiad i glwcos’ o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe fel ymgeisydd staff yn 2017, gan ymchwilio i namau dwbl ymwrthedd i inswlin a chamweithrediad celloedd beta yn natblygiad anoddefiad i glwcos.

Mae Gareth yn ymwneud â threialon clinigol mewn diabetes a meysydd perthnasol ers amser maith gyda’r diwydiant fferyllol ac yn fwy diweddar gyda’r diwydiant dyfeisiau a diagnosteg. Mae’r rôl olaf hon wedi arwain at ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a dilysu biobrofion, profion a dyfeisiau newydd ym maes diabetes.

Meysydd Arbenigedd

  • Anoddefiad i glwcos
  • Diabetes
  • Ymwrthedd i inswlin
  • Camweithrediad celloedd Beta
  • Biofarcwyr
  • Dyfeisiau
  • Rheoli Ansawdd Labordai Achrededig

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Gareth yw arweinydd y modiwl Hanfodion Diabetes ar gyfer y cwrs ôl-radd MSc mewn Ymarfer Diabetes.

Ymchwil