Trosolwg
Gerontolegydd yw Dr Gary Christopher sy'n gweithio yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wybyddiaeth a rheoleiddio emosiwn yn hwyrach mewn bywyd, gan gynnwys dementia.
Yn ogystal ag ysgrifennu erthyglau cyfnodolion, mae Dr Christopher wedi ysgrifennu pedwar lyfr (The Psychology of Ageing: From Mind to Society; Confronting the Existential Threat of Dementia: An Exploration into Emotion Regulation; Dementia: Current Perspectives in Research and Treatment; Depression: Current Perspectives in Research and Treatment).
Mae Dr Christopher yn aelod o bwyllgor gweithredol cenedlaethol Cymdeithas Gerontoleg Prydain . Mae'n Gyd-gyfarwyddwr y Tîm Integreiddio Iechyd Dementia yng Nghanolfan Gwyddorau Iechyd Academaidd Partneriaid Iechyd Bryste. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr elusen BRACE Dementia Research.