Trosolwg
Ymunodd Dr Muneeb Ahmad â'r Adran Gyfrifiadureg fel Darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio dulliau o faes dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl i greu systemau rhyngweithiol deallus fel robotiaid cymdeithasol, a rhyngwynebau defnyddwyr a all addasu i ddefnyddwyr drwy ddadansoddiad amser real o'u signalau cymdeithasol a data ffisiolegol. Mae ganddo ddiddordeb mewn defnyddio dysgu peirianyddol i weithredu systemau rhyngweithiol deallus. Ymhellach, mae'r gwaith yn cynnwys gwerthuso'r systemau rhyngweithiol hyn i astudio eu heffaith ar ymddygiad dynol yn bennaf i weld lefel eu hymgysylltiad cymdeithasol, llwyth gwybyddol, ymddiriedaeth ganfyddedig, a pherfformiad. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, mae wedi gweithio fel Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Roboteg Caeredin yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Heriot-Watt ar brosiect ORCA-Hub EPSRC, lle arweiniodd y gwaith o ddatblygu dull mesur llwyth Gwybyddol yn y Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron/Robotiaid.