Trosolwg
Cwblhaodd Dr Sara Sharifzadeh ei hastudiaeth PhD mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Technegol Denmarc yn 2015, gyda chyfnod ymchwil estynedig ym Mhrifysgol Waterloo, Canada. Wedi iddi gwblhau ei PhD, dechreuodd yrfa newydd fel Ymchwilydd Cysylltiol mewn Gwyddor Data ym Mhrifysgol Loughborough. Yn 2018, ymunodd â Phrifysgol Coventry fel Darlithydd. Ymunodd â Phrifysgol Abertawe fel uwch-ddarlithydd yn 2021.
Yn ystod ei hastudiaethau a'i gyrfa ymchwil, cymerodd Dr Sharifzadeh ran mewn nifer o brosiectau ymchwil diwydiannol a ariannwyd gan EPSRC a Chyngor Denmarc ar gyfer Ymchwil Strategol a'u partneriaid diwydiannol. Mae ei phif feysydd ymchwil yn cynnwys dysgu peirianyddol, deallusrwydd artiffisial, dadansoddi data amlamryweb a’i ddefnyddio wrth ddadansoddi signalau/delweddau, iechyd digidol e.e. adnabod gweithgarwch dynol, dadansoddi delweddau lloeren a dadansoddi data cwmwl pwynt 3D a geir o synwyryddion sganiwr laser ar robotiaid. Mae hi wedi goruchwylio nifer o brosiectau PhD ac MSc ar y pynciau ymchwil hyn. Mae hi’n adolygydd nifer o gyfnodolion rhyngwladol ag effaith fawr, ac yn aelod o IEEE.