Dr Hannah Buckland

Dr Hannah Buckland

Aelod Cyswllt
Malvern Panalytical

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Swyddog Ymchwil (ymchwilydd ôl-ddoethurol) yng Ngrŵp Teffra Abertawe yw Dr Hannah Buckland. Mae'n cydweithio â Dr Paul Albert ar ei grant Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol UKRI. Mae ei gwaith ymchwil yn rhoi sylw i hanes ffrwydrol llosgfynyddoedd gan ddefnyddio cyfuniad o ddata o'r maes a modelau o symudiad a gwaddodiad lludw folcanig.

Cyn ei hamser yn Abertawe, cwblhaodd Hannah radd israddedig mewn Daeareg a Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Caeredin (2011-2015), MSc mewn Fwlcanoleg (2015-2016) a PhD mewn Fwlcanoleg ym Mhrifysgol Bryste.

Ymunodd Hannah â Phrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2022 ac mae'n gweithio ar gampws Parc Singleton.

Meysydd Arbenigedd

  • Fwlcanoleg
  • Teffrogronoleg
  • Dadansoddi a delweddu data

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae gwaith ymchwil Hannah yn dwyn ynghyd waith maes, astudiaethau labordy a modelu cyfrifiadurol.

Mae ei hastudiaethau yn y maes yn cynnwys ymweld ag ardaloedd folcanig er mwyn mapio a samplo gwaddodion sy'n cael eu ffurfio gan ffrwydradau folcanig ffyrnig (h.y., gwaddodion teffra).

Yn ôl yn y labordy, mae hi'n dadansoddi nodweddion ffisegol (e.g., maint y graen) a geocemegol y teffra, sy'n gallu rhoi gwybodaeth am y  llosgfynydd ffynhonnell a'r ffrwydrad yn ogystal â darparu mewnbwn allweddol ar gyfer modelau o symudiad a gwaddodiad lludw folcanig.