Professor Kenith Meissner

Yr Athro Kenith Meissner

Penodiad Er Anrhydedd (Gwyddoniaeth)
Faculty of Science and Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606453

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae Kenith Meissner yn Athro Ffiseg er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae labordy Meissner yn canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau nano-strwythuredig a micro-strwythuredig a thechnegau optegol ar gyfer  delweddu biofeddygol a chymwysiadau synhwyro. Mae'r ymchwil yn cyfuno datblygu deunyddiau ag arbenigedd mewn dylunio systemau optegol.

Mae gwaith deunyddiau wedi'i angori gan synthesis nanostrwythurau â chymorth microdonau gan gynnwys nanoglystyrau, nanoronynnau a nanorodiau.  Ynghyd ag arbenigedd mewn dylunio a sbectrosgopeg optegol, datblygir technegau delweddu a synhwyro newydd drwy ddylunio rhesymegol.

Meysydd Arbenigedd

  • Opteg Biofeddygol,
  • Sbectrosgopeg Optegol,
  • Nanoddeunyddiau, Synwyryddion,
  • Microsgopeg