Trosolwg
Mae'r Athro Hutchings yn Athro Ymchwil y Gwasanaethau Iechyd yn Sefydliad Gwyddor Bywyd 2. Mae Hayley hefyd yn Gyfarwyddwr Uned Dreialon Abertawe, sy'n un o oddeutu 50 o unedau treialon sydd wedi cofrestru gyda Chydweithrediad Ymchwil Glinigol y DU. (https://ukcrc-ctu.org.uk). Enillodd Hayley ei gradd gyntaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ym 1990 yng Ngwyddor Biofeddygol (anrhydedd dosbarth cyntaf). Yna cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd lle bu’n gweithio yn y Ganolfan Ymchwil i’r Annwyd Cyffredin a’r Trwyn ar ysgoloriaeth ymchwil gan Procter and Gamble Pharmaceuticals. Ar ôl iddi ymgymryd â rolau ymchwil amrywiol, penodwyd Hayley yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2005 a chafodd ei dyrchafu i Gadair Bersonol ym mis Mawrth 2016.
Mae Hayley yn canolbwyntio'n bennaf ar ymchwil. Mae ganddi 30 mlynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol yn ymchwil a threialon gwasanaethau iechyd. Mae diddordebau ymchwil Hayley yn cynnwys adnoddau sy'n mesur canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs), treialon a defnyddio data cysylltiedig dienw a gesglir yn rheolaidd. Ar hyn o bryd, mae Hayley yn arwain neu'n darparu mewnbwn i ystod o brosiectau ymchwil yn y meysydd hyn. Mae hi wedi cyhoeddi dros 150 o gyhoeddiadau ymchwil hyd heddiw. Mae Hayley yn aelod o bwyllgor Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mewnol y Gyfadran, sy'n asesu ansawdd cyhoeddiadau ymchwil. Mae hi hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau adolygu gan gymheiriaid ar gyfer nifer mawr o gyrff cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ariannu grantiau a chyfnodolion meddygol effaith uchel.
Mae gan Hayley hanes llwyddiannus o oruchwylio ac archwilio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac yn y gorffennol mae hi wedi dal swyddi ar lefel strategol ysgol a phrifysgol i oruchwylio ymchwil ôl-raddedig. Mae Hayley yn uwch-ymgynghorydd ar bwyllgor ymchwil ôl-raddedig y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd sy'n helpu i oruchwylio ymchwil a strategaethau myfyrwyr meddygol ôl-raddedig.
Yn ogystal â’i swyddi ymchwil, mae Hayley yn goruchwylio myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Cymhwysol a Geneteg a Biocemeg fel rhan o'u prosiectau ymchwil israddedig blwyddyn olaf.