Mr Huw Strafford
Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data
Yn y modiwl hwn mae myfyrwyr yn canolbwyntio ar reoli lleoliadau clinigol cymhleth gan ystyried elfennau digidol, rheolaeth, gwyddorau ymddygiadol a seicolegol ar y cyd â datblygiadau mewn ymarfer fferylliaeth a gofal fferyllol. Bydd y modiwl yn parhau i adeiladu ar y wybodaeth sylfaenol-wyddonol a'r sgiliau clinigol a ddatblygwyd ym Mlynyddoedd 1 - 3. Mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso fferylliaeth drosiadol (o ochr y fainc i erchwyn y gwely). Nod y modiwl yw annog myfyrwyr i drosglwyddo gwybodaeth o ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau i sefyllfaoedd cymhleth newydd nas gwelwyd o'r blaen. Bydd y dysgu hwn yn cael ei gefnogi gan gyd-destun cadarn o wyddoniaeth i ymarfer fferylliaeth a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy addysgu a dysgu trawsddisgyblaethol ac amlygiad clinigol helaeth yn ymarferol ac yn y Gyfres Sgiliau Fferylliaeth.
Welsh language proficiency
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Trosolwg
Ymchwilydd a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe yw Huw Strafford. Mae Huw yn rhan o'r Grŵp Ymchwil Niwroleg. Mae ei brif ymchwil yn canolbwyntio ar Brosesu Iaith Naturiol (NLP) ond mae ganddo brofiad hefyd o gysylltu, dadansoddi a delweddu data ym Manc Data SAIL.