Trosolwg
Cwblhaodd Dr Helen Chadwick ei Gradd Meistr mewn Cemeg ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2008, a chwblhaodd ei Doethuriaeth mewn Cemeg Ffisegol yn 2012. Derbyniodd wobr ddoethurol EPSRC i barhau â’i gwaith ymchwil fel myfyriwr ôl-ddoethurol yn Rhydychen, cyn symud i’r EPFL yn y Swistir yn 2013 i gynnal arbrofion deinameg arwynebau nwy. Ar ddiwedd 2016, enillodd Dr Chadwick Gymrodoriaeth Symudedd Ôl-ddoethurol Uwch o’r Swiss National Science Foundation i dreulio dwy flynedd yn y grŵp Cemeg Damcaniaethol ym Mhrifysgol Leiden yn yr Iseldiroedd, gan gyflawni cyfrifiadau i gael darlun cliriach o’r arbrofion a wnaeth yn yr EPFL. Ymunodd Dr Chadwick â’r grŵp Deinameg Arwynebau ym Mhrifysgol Abertawe fel Swyddog Ymchwil (uwch ôl-ddoethurol) ym mis Chwefror 2019, a’i phrif ffocws yno yw datblygu dulliau dadansoddi a fydd yn cael eu defnyddio i ddehongli data a fesurir gan ddefnyddio’r ymyradur pelydrau moleciwlaidd unigryw sydd yn yr Adran Gemeg.