Trosolwg
Mae gan Hayder Jahanger PhD mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig o Brifysgol Nottingham, y DU, a phrofiad o systemau pŵer integredig, yn benodol ym meysydd diogelu ac integreiddio ynni adnewyddadwy.
Ar hyn o bryd, mae Dr Jahanger yn Ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Drydanol ac Electronig ym Mhrifysgol Abertawe. Ei ddiddordebau ymchwil presennol yw diogelu systemau pŵer, integreiddio ffynonellau ynni adnewyddadwy a thrawsnewidyddion electroneg pŵer ym maes cludiant.