Trosolwg
Yr Athro Masters yw Pennaeth y Ganolfan Arbenigedd Ynni'r Cefnfor a Hydrogen ym Mhrifysgol Abertawe, sydd â 15 aelod o staff academaidd.
Mae ymchwil yr Athro Masters yn ystyried sut i gynhyrchu ynni o'r môr. Mae technoleg ynni'r cefnfor yn cynnwys defnyddio tyrbinau gwynt, troswyr ynni tonnau, a thyrbinau llanw tanddwr. Yn ogystal â phynciau peirianneg arloesol, un o themâu’r ymchwil yw sut y gellir ystyried y dechnoleg hon mewn darlun ehangach, sut mae'n rhyngweithio â'r cefnfor a'r ecoleg sydd yn y cefnfor, a sut gall y dechnoleg greu cyfleoedd busnes newydd, creu swyddi lleol a chefnogi cymunedau.
Mae dau brosiect mawr diweddar yn canolbwyntio ar ddatblygiad rhanbarthol ac ymchwil a datblygu cydweithredol gyda byd diwydiant ym maes ynni'r cefnfor: Prosiect SELKIE Iwerddon a Chymru (gyda Choleg Prifysgol Corc) a’r Ganolfan Rhagoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE) gydag ORE Catapult a phedair prifysgol o Gymru. Mae Ian hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Hyfforddiant Doethurol Ddiwydiannol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol mewn Ynni Adnewyddadwy Alltraeth (IDCORE).