Trosolwg
Mae Dr Norambuena-Contreras yn Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe, y DU, ac yn aelod o'r Sefydliad Ymchwil Deunyddiau a Gweithgynhyrchu. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeunyddiau bitwminaidd hunanwella ar gyfer ffyrdd mwy cadarn a chynaliadwy. Mae'r ymchwil amlddisgyblaethol hon yn integreiddio'r disgyblaethau Gwyddor Deunyddiau, Peirianneg Sifil a Pheirianneg Gemegol. Cyn iddo ymuno ag Abertawe, roedd Dr Norambuena-Contreras yn Athro Cynorthwyol a Chysylltiol mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Bio-Bio (Chile), lle gwnaeth sefydlu ac arwain Grŵp Ymchwil LabMAT. Cyn hynny, daliodd ef swyddi ymchwil ac ôl-ddoethurol mewn llawer o sefydliadau Ewropeaidd o fri, gan gynnwys Grŵp Ymchwil GITECO ym Mhrifysgol Cantabria (Sbaen), Labordai Ffederal y Swistir ar gyfer Gwyddoniaeth Deunyddiau a Thechnoleg (EMPA) yn ETH-Zürich (y Swistir) a Chanolfan Peirianneg Trafnidiaeth Nottingham (NTEC) ym Mhrifysgol Nottingham (y DU). Mae hefyd wedi cynnal gwaith academaidd ym Mhrifysgol Technoleg Wuhan yn Tsieina, Prifysgol Technoleg Delft yn yr Iseldiroedd a Sefydliad Technoleg Massachusetts yn UDA. Mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniadau at ddeunyddiau bitwminaidd hunanwella, dyfarnwyd Medal Robert L’Hermite RILEM 2024 i Dr Norambuena-Contreras gan yr Undeb Rhyngwladol ar gyfer Labordai ac Arbenigwyr mewn Deunyddiau, Systemau ac Isadeileddau Adeiladu (RILEM). Rhoddir y dyfarniad urddasol hwn i ymchwilydd dan 40 oed sydd wedi gwneud cyfraniad gwyddonol eithriadol i faes deunyddiau ac isadeileddau adeiladu.