Trosolwg
Astudiais yn yr Ysgol Hanes ym Mhrifysgol Bryste, gan raddio gyda BA ym 1984 a doethuriaeth ym 1991. Bûm yn gymrawd ymchwil mewn gwleidyddiaeth ym Mryste (1988-89); ac yn ddarlithydd dros dro yn Royal Holloway a Bedford New College, Llundain mewn polisi cymdeithasol a gwyddor gymdeithasol (1989-90); ac ym Mhrifysgol Warwick mewn gwleidyddiaeth (1990-92). Ymunais â Phrifysgol Abertawe ym 1992, ac ar ôl cael dyrchafiad i fod yn uwch ddarlithydd a darllenydd, cefais fy mhenodi i Gadair bersonol mewn Gwleidyddiaeth yn 2012.
Fel ymchwilydd rwyf wedi canolbwyntio ar wleidyddiaeth diriogaethol y ffordd y caiff y DU ei llywodraethu, sy'n ymwneud â llywodraeth ddatganoledig a llywodraeth leol. Mae gen i ddiddordeb mewn dadansoddi gwladweinyddiaeth llywodraethu, yn ogystal â goblygiadau gwleidyddol, polisi a chynrychiolaeth llywodraeth diriogaethol. Mae fy ngwaith diweddar wedi canolbwyntio ar ddadansoddi datganoli ers diwedd y 1990au ac mae'n cynnwys fy llyfr newydd, Constitutional Policy and Territorial Politics in the UK: Union and Devolution, 1997-2007 (Bristol University Press, 2021).
Ers 2021, rwyf wedi bod yn Ddeon Cysylltiol yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn gyfrifol am Ymchwil, Arloesi ac Effaith. Ers 2022, rwyf hefyd wedi bod yn Arweinydd y Brifysgol ar gyfer ymchwil mewn Gwydnwch ym mhartneriaeth strategol y Brifysgol â Phrifysgol Grenoble Alpes. Rwyf hefyd yn Arweinydd Cyfrifon Cyflymu Effaith yr ESRC a’r AHRC yn y Brifysgol. Yn gynt, roeddwn i’n Gyfarwyddwr Ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau rhwng 2017 a 2021. Roeddwn i'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol rhwng 2012 a 2016. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i hefyd yn Arweinydd y Brifysgol yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol gydweithredol yr ESRC yng Nghymru. Roeddwn i'n Bennaeth yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol rhwng 2010 a 2012.
Yn fy addysgu, rwy'n cynnull modiwl israddedig y flwyddyn olaf ar Senedd Cymru ac yn goruchwylio myfyrwyr PhD a thraethawd estynedig. Rwyf wedi goruchwylio 10 myfyriwr PhD llwyddiannus sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd mewn llywodraeth, ymchwil ac addysg. Mae gennyf ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ymchwil newydd ym meysydd datganoli cymharol/y DU, gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus y DU.