ILS2 Internal Atrium

Dr Jonathan Phillips

Uwch-ddarlithydd Er Anrhydedd
Medicine

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604256

Cyfeiriad ebost

332
Ail lawr
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Dr Jonathan Phillips yw Arweinydd Ffiseg Cyseinedd Magnetig Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB). Ymgymerodd â’r rôl hon ym mis Ebrill 2020, wedi iddo ymuno ag Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn 2012.

Mae delweddu meintiol yn gyrru ei ddiddordebau ymchwil, sy'n cynnwys y dehongliadau ffisegol sylfaenol o'r signal delweddu cyseinedd magnetig (MRI) a chymwysiadau clinigol. Prif ddiddordeb ymchwil Jon ar hyn o bryd yw delweddu pwysol gwasgariad di-Gausaidd.

Fel Gwyddonydd Clinigol cofrestredig, Jon yw Arbenigwr Diogelwch Cyseinedd Magnetig (MRSE) Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Darpara hyfforddiant tra arbenigol i Wyddonwyr Clinigol dan Hyfforddiant GIG Cymru mewn MRI fel rhan o’r rhaglen hyfforddiant gwyddonol (STP).

Mae Jon yn gyn-fyfyriwr Crwsibl Cymru http://www.welshcrucible.org.uk/jonathan-phillips/ ac yn croesawu cydweithio rhyngddisgyblaethol

Meysydd Arbenigedd

  • Delweddu cyseinedd magnetig
  • Delweddu â phwysiad trylediad
  • Diogelwch MRI

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Jon yn dysgu ar gyrsiau amrywiol yn yr Ysgol Feddygol ac ef yw arweinydd modiwl PMPM04: Delweddu Meddygol. Mae hefyd yn gymrawd yr Academi Addysg Uwch (HEA).

Jon yw arweinydd hyfforddiant ffiseg MRI ar gyfer hyfforddeion sydd wedi cofrestru ar y rhaglen hyfforddiant gwyddonol (STP) gyda GIG Cymru. Mae hyfforddeion yn treulio cylchdro pedair wythnos mewn MRI lle maent yn cael profiad ymarferol ar sganiwr MRI Prifysgol Abertawe. Ym mis Medi 2020 byddwn yn croesawu ein hyfforddeion arbenigol cyntaf mewn Delweddu gydag Ymbelydredd An-ïoneiddio.

Mae Jon yn dysgu MRI Ffiseg i radiolegwyr dan hyfforddiant fel rhan o’u hyfforddiant FRCR:

https://imagingacademy.wales/national-imaging-academy-wales. Mae’r hyfforddeion yn cael eu haddysgu yn yr Academi Ddelweddu ac yn cael profiad ymarferol.

Ymchwil