Trosolwg
Graddiodd yr Athro Mareque-Rivas o Brifysgol Strathclyde ac Universidade de Santiago de Compostela gyda graddau mewn Cemeg a Chemeg Gymhwysol, gan arbenigo mewn cemeg anorganig, ffisegol a fferyllol. Gwnaeth ei Ddoethuriaeth (1995-98) mewn cemeg uwchfoleciwlaidd ym Mhrifysgol Missouri-St Louis ac yna gwnaeth waith ymchwil ôl-ddoethurol yn MIT yn labordy Steve Lippard ym maes metelonewrogemeg (1998-2000). Sefydlodd ei grŵp ymchwil annibynnol yn yr EastChem School of Chemistry ym Mhrifysgol Caeredin (2000-11). Derbyniodd Swydd Athro Ymchwil Ikerbasque i ymuno â’r Centre for Cooperative Research in Biomaterials (CIG biomaGUNE) yn San Sebastian, a ffurfiwyd yn ddiweddar iawn, lle sefydlodd y Theranostic Nanomedicine Laboratory a lle’r oedd yn Arweinydd Grŵp ar ei gyfer. Wrth ddychwelyd i’r DU, cafodd ei benodi gan Brifysgol Aberdeen i gychwyn rhaglen Beirianneg Biofeddygol yn yr Ysgol Beirianneg. Yn ystod 2016-17, ymunodd â Phrifysgol Abertawe fel Athro Ymchwil, gan wasanaethu fel Cyd-Bennaeth yr Adran (2016-18) ac yn Bennaeth Ymchwil (2016-21) yn yr Adran Gemeg Newydd.