Kirsty Meldrum

Dr Kirsty Meldrum

Swyddog Ymchwil
Yn y modiwl hwn mae myfyrwyr yn canolbwyntio ar reoli lleoliadau clinigol cymhleth gan ystyried elfennau digidol, rheolaeth, gwyddorau ymddygiadol a seicolegol ar y cyd â datblygiadau mewn ymarfer fferylliaeth a gofal fferyllol. Bydd y modiwl yn parhau i adeiladu ar y wybodaeth sylfaenol-wyddonol a'r sgiliau clinigol a ddatblygwyd ym Mlynyddoedd 1 - 3. Mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso fferylliaeth drosiadol (o ochr y fainc i erchwyn y gwely). Nod y modiwl yw annog myfyrwyr i drosglwyddo gwybodaeth o ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau i sefyllfaoedd cymhleth newydd nas gwelwyd o'r blaen. Bydd y dysgu hwn yn cael ei gefnogi gan gyd-destun cadarn o wyddoniaeth i ymarfer fferylliaeth a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy addysgu a dysgu trawsddisgyblaethol ac amlygiad clinigol helaeth yn ymarferol ac yn y Gyfres Sgiliau Fferylliaeth.

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1263
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Enillodd Kirsty ei PhD yng Ngholeg Imperial Llundain a Public Health England drwy ganfod effeithiau nanoronynnau o ceriwm deuocsid a gronynnau egsôst diesel ar fodelau in vitro ac in vivo o glefyd y llwybr anadlu.

Ar ôl iddi ennill ei PhD, gweithiodd Kirsty yng Ngrŵp Tocsicoleg In Vitro Prifysgol Abertawe lle y bu'n cyfrannu at ymchwil y rhaglen a ariennir gan Horizon 2020: PATROLS (Physiologically Anchored Tools for Realistic nanOmateriaL hazard aSsessment). Canolbwyntio'n benodol ar ddatblygu modelau uwch in vitro o'r ysgyfaint a'u rhoi ar waith i brofi tocsicoleg nanoddeunyddiau.

Mae Kirsty yn gweithio ar hyn o bryd fel Swyddog Ymchwil ar gyfer prosiect RESPIRE - sydd wedi'i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) trwy eu rhaglen Blaenoriaethau Strategol: Ariannu Aer Glân. Nod y prosiect hwn yw asesu'r effaith o ddod i gysylltiad â llygredd aer (dan do ac yn yr awyr agored) yn ystod beichiogrwydd ar ddatblygiad ac iechyd plant. Mae Kirsty yn canolbwyntio ar y llwybrau anadlu a defnyddio dulliau uwch o astudio dod i gysylltiad â chydrannau llygredd amrywiol.

Meysydd Arbenigedd

  • Nanowenwyneg
  • Nodweddu Nanoronynnau
  • Modelau o'r llwybr anadlu
  • Llygredd Aer
  • Rhyngweithiadau rhwng Celloedd Nanoronynnau
  • Tocsicoleg
  • Ymagweddau Uwch at Astudio Cysylltiadau in vitro