Trosolwg
Mae’r Athro Laith Alrubaiy yn Gastroenterolegydd ac yn Hepatolegydd ymgynghorol. Mae’n Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Ar ôl ennill dwy ysgoloriaeth hynod gystadleuol i gwblhau ei astudiaethau meddygol ôl-radd ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau ac yna yng Ngholeg King’s, Llundain, symudodd i Gymru i ddilyn ei hyfforddiant academaidd clinigol yng Nghymru ym maes Hepatoleg, Gastroenteroleg a Meddygaeth Gyffredinol. Dyfarnwyd PhD iddo o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe am ei waith yn cymhwyso gwybodeg iechyd mewn ymchwil Gastroenteroleg a threialon clinigol. Mae’n arbenigwr ar ymchwil sy’n ymwneud â mesurau adrodd ar ddeilliannau cleifion (PROMs). Mae wedi ennill sawl gwobr genedlaethol a rhyngwladol. Yn 2017, cafodd ei enwi’n “Gastroenterolegydd Ifanc y Flwyddyn” gan Gymdeithas Gastroenteroleg Prydain yn y DU.
Yn ogystal â’i waith academaidd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae Dr Alrubaiy yn parhau â’i waith clinigol fel Gastroenterolegydd ac Hepatolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ysbyty Sant Marc yn Llundain, un o’r ysbytai GI mwyaf arbenigol yn Ewrop.