Dr Martyn Quigley

Dr Martyn Quigley

Uwch-ddarlithydd
Psychology

Cyfeiriad ebost

917B
Nawfed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe yw Martyn Quigley. Cyn hyn, bu Martyn yn gweithio ym Mhrifysgol Nottingham lle ymgymerodd hefyd â PhD mewn Seicoleg a ariannwyd gan yr ESRC gyda'r Athro Mark Haselgrove.  Cyn y PhD, bu Martyn yn gweithio gyda'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Mae gwaith ymchwil Martyn wedi canolbwyntio'n bennaf ar ffactorau sy'n dylanwadu ar ddysgu ac ymddygiad a sut gall y rhain gael eu hesbonio drwy ddamcaniaethau cysylltiadol dysgu. Mae ganddo ddiddordeb mewn ymchwil ddamcaniaethol a chymhwysol ac mae wedi archwilio effaith ffactorau megis sylw, osgoi, pryder a sgitsoteipi ar ddysgu ac ymddygiad.

Mae Martyn yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ac mae ganddo ddiddordeb ymchwil mewn addysgeg addysg uwch gan gynnwys cyfranogiad myfyrwyr, cyflogadwyedd a lles, gyda ffocws penodol ar sut mae gwahaniaethau unigol, megis nodweddion personoliaeth, yn gallu esbonio amrywiad ym mhrofiadau addysg uwch myfyrwyr.

Meysydd Arbenigedd

  • Dysgu ac Ymddygiad
  • Dysgu cysylltiadol
  • Dysgu osgoi
  • Cyflyru yn erbyn ofn
  • Addysgeg Addysg Uwch
  • Nodweddion personoliaethau
  • Lles Myfyrwyr
  • Cyflogadwyedd myfyrwyr