Trosolwg
Mae Dr Quintela yn gweithio yn yr Ysgol Feddygaeth ac yn Swyddog Arloesi Ymchwil a Datblygu yn y grŵp ymchwil Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol (RBGO). Graddiodd Dr Quintela gyda gradd baglor ym Mhrifysgol Salamanca (Sbaen) yn 2012. Yna dilynodd gwrs gradd meistr mewn Biotechnoleg yn yr Autonomous University of Barcelona (Sbaen) ac yn 2014 symudodd i’r DU i gychwyn Doethuriaeth mewn Nanofeddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Gwnaeth ei Ddoethuriaeth mewn partneriaeth â’r Houston Methodist Research Institute, lle treuliodd ddwy flynedd yn gweithio fel Cymrawd Ymchwil Graddedig. Ar ôl cwblhau ei Ddoethuriaeth, ymunodd Marcos â’r Coleg Meddygaeth fel ymchwilydd, gan weithio yn gyntaf yn yr adran Gwyddor Data ac erbyn hyn mae’n rhan o’r grŵp RBGO.