Yr Athro Mike Jennings

Athro
Electronic and Electrical Engineering

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
Swyddfa Academaidd - B205
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rydw i’n academydd sydd wrth fy modd gyda deunyddiau electronig lled-ddargludyddion cyfansawdd bandgap llydan (silicon carbid, galiwm ocsid a galiwm nitrid).

Ar ôl gweithio ym maes electroneg a dyfeisiau pŵer silicon carbid ers 2003, fy mhrif ddiddordeb yw ymchwilio i’r posibilrwydd o weithgynhyrchu’r dechnoleg hon drwy rwydwaith eang o bartneriaid diwydiannol.

Yn ddiweddar, rydw i wedi ymgymryd â nifer o brosiectau ymchwil o fewn maes bandgap gor-lydan galiwm ocsid ar gyfer defnydd electroneg pŵer. Yma, rydw i’n ceisio archwilio i ddichonolrwydd y deunydd newydd hwn o bersbectif masnachol (y cynnyrch).

Meysydd Arbenigedd

  • Ffiseg a dyluniad dyfais lled-ddargludydd pŵer
  • Deunyddiau a dyfeisiau bandgap llydan
  • Nodweddion trydanol dyfeisiau lled-ddargludydd pŵer
  • Dibynadwyedd dyfeisiau lled-ddargludydd pŵer