An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Michael Bresalier

Dr Michael Bresalier

Darlithydd mewn Hanes Meddygaeth, History
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n hanesydd meddygaeth fodern, ac rwy'n arbenigo yn yr ymagweddau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol iechyd ac afiechyd. Fy llyfr diweddaraf, Modern Flu (Palgrave 2023), yw'r hanes systematig cyntaf i olrhain sut cafodd y ffliw ei fynegi fel clefyd feirysol a sut gwnaeth ffyrdd feirolegol o wybodaeth ail-lunio ymagweddau at reoli'r clefyd drwy gydol yr ugeinfed ganrif.

Mae fy niddordebau ymchwil presennol yn ymwneud â heintiau i bobl ac anifeiliaid, eu cydgysylltiad â systemau da byw, a rôl sefydliadau iechyd byd-eang wrth fynd i'r afael ag effeithiau'r ‘chwyldro da byw’ ar iechyd, yr amgylchedd a'r hinsawdd.

A minnau'n gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil y Dyniaethau Meddygol yng Nghyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau, rwy'n trefnu gweithdai, seminarau a chynadleddau ar themâu ymchwil craidd, gan gynnwys gwydnwch o ran gofal iechyd ac iechyd, clefydau a byd natur.

Ym mis Ionawr 2024, byddaf yn ymchwilydd ar y prosiect chwe blynedd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome ar anghyfiawnder epistemig mewn gofal iechyd (EPIC). Dyma bartneriaeth rhwng athronwyr, seicolegwyr, gwyddonwyr cymdeithasol a haneswyr i astudio sut mae gwahaniaethau mewn gwybodaeth am ofal iechyd yn effeithio ar brofiadau iechyd, lles a chanlyniadau cleifion a chymunedau. 

https://epistemicinjusticeinhealthcareproject.blogspot.com/2023/10/michael-bresalier-on-epic.html

Meysydd Arbenigedd

  • Epidemigau a heintiau yn y byd modern
  • Hanes byd-eang meddygaeth fodern
  • Anifeiliaid mewn gwyddoniaeth a meddygaeth fodern
  • Safbwyntiau hanesyddol ar newyn
  • Hanes iechyd rhyngwladol a byd-eang
  • Meddygaeth, clefydau ac ymerodraeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Hanes meddygaeth fodern, 1790-hyd heddiw

Clefydau mewn hanes

Meddygaeth wladychol, ôl-wladychol a byd-eang

Anghydraddoldebau mewn iechyd a meddygaeth

Cyrff meddygol modern

Geowleidyddiaeth newyn a dyngarwch

Achosion y ‘chwyldro da byw’, ei ganlyniadau ac atebion iddo

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau