An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite

Dr Nicko Vaughan

Uwch-ddarlithydd
English Literature

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513222

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Yn awdur a pherfformiwr comedi ers yn 21, oed pan gyrhaeddodd rownd derfynol The Stand up Show ar BBC1. Yn awdur cyfraniadau sgetsys ar gyfer radio, bu’n adolygu DVDs a chyflwynodd y Comedy Zone am gyfnod byr ar BBC Radio 7. Cyrhaeddodd ei chomedi radio "Death Plays Black" y rhestr fer fel rhan o gyfres BBC Witty and Twisted ac fe'i comisiynwyd i ysgrifennu a pherfformio ffilm hyrwyddo fer ar gyfer BBC Summer of British Film.

Yn arbenigo mewn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer radio, teledu a ffilm mae hi wedi bod yn awdur a gomisiynwyd ar gyfer prosiectau Talkback Thames, wedi ysgrifennu a chynhyrchu ffilmiau byr arobryn, ac mae'n dal i ysgrifennu a pherfformio'r sioe deithiol ryngwladol The Bad Film Club.

Yn ogystal ag ysgrifennu sgriptiau, mae angerdd Nicko am Sherlock Holmes wedi ei gweld yn datblygu cangen gyhoeddi ar gyfer Tŷ Cyhoeddi Sherlock Holmes mwyaf y Byd, MX Publishing. Mae Orange Pip Books wedi'i anelu at ddarllenwyr ifanc ac yn canolbwyntio ar gynrychioli straeon LGBTQ, BAME a Benywaidd, yn ogystal â straeon mwy od AU Holmes.

Meysydd Arbenigedd

  • Ysgrifennu ar gyfer y Sgrin
  • Ysgrifennu Sgriptiau Radio
  • Ffeithiol
  • Ffilm
  • Nofelau Graffig
  • Addasiadau ffilm a teledu Sherlock Holmes
  • Fanffuglen

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Nofelau Graffig

Ysgrifennu ar gyfer y Sgrin

Ffilm

Ffeithiol Creadigol

Ymchwil