Trosolwg
Mae Dr Nicholas Micallef yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys rhyngweithiadau rhwng pobl a chyfrifiaduron (HCI), camwybodaeth, dulliau diogelwch a phreifatrwydd defnyddiadwy, dulliau dilysu a HCI symudol. Mae ei ymchwil ddiweddar yn canolbwyntio ar gamwybodaeth o safbwynt data a phobl. Yn ei rôl flaenorol ym Mhrifysgol Efrog Newydd Abu Dhabi, cymerodd ran mewn prosiectau amrywiol a fu’n astudio dulliau gwrthsefyll camwybodaeth a lledaenu camwybodaeth aml-lwyfan, aml-ddull. Yn ei swydd ym Mhrifysgol De Cymru Newydd, roedd ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddylunio technolegau i wella preifatrwydd sy'n rhoi gwybodaeth realistig i ddefnyddwyr i'w gwneud yn anhysbys ar-lein. Enillodd Dr Micallef ei PhD o Brifysgol Glasgow Caledonian yn y Deyrnas Unedig. Yn ei PhD, ymchwiliodd i'r defnydd o synhwyro symudol er mwyn gwella defnyddioldeb dulliau dilysu ffonau symudol.