Trosolwg
Rwyf yn Athro Ffiseg Deunyddiau, yn ddeiliad Cadair Ymchwil Genedlaethol Sêr Cymru ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol newydd ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf hefyd yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Queensland yn Brisbane. Mae fy niddordebau ymchwil ym maes deunyddiau uwch cynaliadwy ar gyfer cymwysiadau megis ynni solar, optoelectroneg a bioelectroneg, yn ogystal â chysyniadau uwch ym maes integreiddio heterogenaidd lled-ddargludyddion a datgarboneiddio gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion. Cefais fy addysg ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Heriot-Watt a bûm yn Gymrawd Ôl-ddoethurol yn Labordy Cavendish yng Nghaergrawnt cyn derbyn swydd uwch-wyddonydd yn Proctor & Gamble.
Rhwng 2001 a 2017 bûm yn academydd ym Mhrifysgol Queensland lle bu gennyf sawl swydd gan gynnwys Cyfarwyddwr y Ganolfan Ffotoneg ac Electroneg Organig a Chyfarwyddwr UQ Solar. Bûm hefyd yn Gymrawd Gwobr Ymchwilydd Darganfyddiadau Nodedig Cyngor Ymchwil Awstralia yn ogystal ag ymgymryd â rôl weithgar wrth ddatblygu Targed Ynni Adnewyddadwy Talaith Queensland o 50% erbyn 2030. Gwnes i hefyd gyd-sefydlu 3 egin fusnes yn ystod y cyfnod hwnnw gan gynnwys XeroCoat a Brisbane Materials Technology. Yn 2017, dychwelais i Abertawe i sefydlu ymdrech ymchwil ym maes ffiseg deunyddiau uwch cynaliadwy ac arweiniodd hynny at greu'r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol. Mae'r labordy ymchwil £55M o'r radd flaenaf hwn ar gyfer gwyddor a pheirianneg lled-ddargludyddion yn cefnogi ein diwydiant lled-ddargludyddion rhanbarthol ac fe'i cwblhawyd yn 2024. Rwyf wedi cyhoeddi > 270 o bapurau ac mae fy ngwaith wedi'i ddyfynnu dros 25,000 o weithiau (mynegai H o 75), rwyf wedi helpu > 60 o fyfyrwyr ymchwil i raddio ac mae gennyf bortffolio patentau o 32 o gofnodion. Yn 2013, cefais fy anrhydeddu pan dderbyniais i Wobr Cynaliadwyedd Prif Weinidog Queensland ac yn 2020 cefais fy urddo'n Swyddog Urdd Ardderchocaf yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) am wasanaethau i Ymchwil ac Arloesi ym maes Deunyddiau Lled-ddargludol. Rwyf yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Rwyf wedi gwasanaethu ar sawl bwrdd a chorff llywodraethu, ac yn parhau i wneud hynny. Ymhlith y rhain y mae Rhwydwaith Ymgynghori Strategol EPSRC, UK SEMI (y corff sy’n cynrychioli diwydiant lled-ddargludyddion y DU), a Bwrdd Ymgynghorol y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Led-ddargludyddion. [Diweddarwyd y Proffil hwn ym mis Tachwedd 2024]