Trosolwg
Uwch-ddarlithydd ym maes Addysg Gychwynnol i Athrawon yw Rhiannon Pugsley, a’i harbenigedd yw addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd. Y mae ganddi 16 mlynedd o brofiad o weithio mewn ysgolion uwchradd a phob oed cyfrwng Cymraeg a chyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yr oedd yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Yn ystod ei gyrfa fel athrawes, arbenigodd Rhiannon yn addysgu’r Gymraeg yn ogystal â’r maes Anghenion Dysgu Ychwanegol ac fe fu’n Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol am chwe blynedd ac yn aelod o Banel Cynhwysiant Castell-nedd Port Talbot. Mae ei gyrfa hefyd wedi cynnwys cyfnodau fel Pennaeth Blwyddyn, Athro Dynodedig Diogelu Plant ac fel cymedrolwr allanol i Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC). Y mae Rhiannon yn aseswr trefniadau mynediad cymwysedig ac yn aelod o Communicate-ed.