An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Roberta Magnani

Dr Roberta Magnani

Uwch-ddarlithydd
English Literature

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602606

Cyfeiriad ebost

224
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Roberta Magnani yn ymchwilydd ac addysgwr ymroddedig sydd wedi cyhoeddi’n helaeth ar bynciau sy’n ymwneud â llenyddiaeth ganoloesol hwyr a theori rhywedd. Yn 2013, derbyniodd Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe. Hi yw Cyfarwyddwr GENCAS, Canolfan Ymchwil i’r Rhywiau a Diwylliant mewn Cymdeithas y Brifysgol, yn ogystal ag Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Ar hyn o bryd, hi hefyd yw Is-lywydd Cymdeithas Ryngwladol Ysgoloriaeth Ffeministaidd Ganoloesol(SMFS).

Meysydd Arbenigedd

  • Llenyddiaeth ganoloesol hwyr
  • Gwaith Geoffrey Chaucer
  • Diwylliant llawysgrifau canoloesol hwyr
  • Theori rhywedd, yn enwedig theorïau ffeministaidd, lesbiaidd a chwiar sy’n gorgyffwrdd
  • Canoloesoldeb a’r ddeialog rhwng y canoloesol a’r cyfoes

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Roberta Magnani yn dysgu amrywiaeth o gyrsiau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn addysgu llenyddiaeth ganoloesol yng nghyd-destun y llawysgrifau sydd ynghlwm wrth y traddodiadau llenyddol hyn. Mae ei haddysgu yn harneisio dulliau dysgu ac asesu arloesol, megis blogiau a phrosiectau dan arweiniad myfyrwyr, er mwyn cyflwyno myfyrwyr i gyfoeth y diwylliant llenyddol canoloesol, oliwiadau llawysgrifau i drosiadau barddonol. Mae’r ddeialog rhwng y gorffennol a’r presennol yn chwarae rhan ganolog yn addysgu Dr Magnani, gan ei bod yn cymhwyso theorïau llenyddol cyfoes (yn enwedig theorïau rhywedd a theorïau cwiar yn fwy penodol) i’r gwaith o astudio testunau canoloesol.

Ymchwil Prif Wobrau