Trosolwg
Mae Richard Hugtenburg yn Athro Cyswllt mewn Ffiseg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn wyddonydd clinigol, yn arbenigo mewn ffiseg radiotherapi, yn Ysbyty Singleton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Dechreuodd Richard ei yrfa yn Christchurch, Seland Newydd, gan weithio fel ffisegydd meddygol tra'n astudio ar gyfer PhD a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio Monte Carlo wrth ddylunio triniaeth radiotherapi. Ym 1997, symudodd i'r DU, gan barhau i ymarfer mewn ffiseg radiotherapi; yn gyntaf yng Nghanolfan Feddygol y Frenhines Elizabeth ym Mirmingham, yna yn Ysbyty Singleton, Abertawe. Mae wedi cydlynu’r rhaglen MSc mewn Ffiseg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe ers 2008.