An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Richard Robinson

Dr Richard Robinson

Athro Cyswllt
English Literature

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602796

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
210
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Richard yn Athro Cysylltiol yn yr Adran Llenyddiaeth, y Cyfryngau ac Iaith, lle mae'n Gyd-gyfarwyddwr sefydlu’r Grŵp Ymchwil Ymarfer Creadigol a Beirniadol. Ei brif feysydd arbenigedd yw ffuglen gyfoes a'r ugeinfed ganrif, yn enwedig moderniaeth, moderniaeth hwyr, ysgrifennu Gwyddelig ac astudio gororau llenyddol Ewrop. Mae'n awdur dau fonograff: Narratives of the European Border: A History of Nowhere (Palgrave, 2007) a John McGahern and Modernism (Bloomsbury, 2017). Mae'n cyhoeddi mewn cyfnodolion megis Critical Quarterly, Modern Fiction Studies, James Joyce Quarterly, Irish University Review, Journal of European Studies, Textual Practice ac English Studies. Mae'n adolygu llyfrau ar gyfer The Guardian (yma ac yma) ac mae'n aelod o fwrdd golygyddol The Journal of European Studies.

Ar hyn o bryd, mae Richard yn gweithio ar arddull a ffuglen gyfoes. Mae wedi golygu ar y cyd (gyda Barry Sheils) rifyn arbennig o Textual Practice, The Contemporary Problem of Style (2022). Mae wrthi'n cyd-ysgrifennu (gyda Barry Sheils) monograff o'r enw The Discipline of Style: Sentence, Voice, Description and Translation in Contemporary Fiction.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Ysgrifennu Modern a Chyfoes yn Saesneg, gan gynnwys Kazuo Ishiguro
  • Astudiaethau Gwyddelig, gan gynnwys James Joyce a John McGahern
  • Astudiaethau ffiniau, gyda diddordeb arbennig mewn argraffiadau o Ganol Ewrop
  • Hanes disgyblaethol arddull

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Richard wedi addysgu ar yr holl raglenni llenyddiaeth yn Abertawe am yr 17 mlynedd diwethaf, gyda ffocws ar foderniaeth (yn enwedig James Joyce, y mae'n cynnal modiwl MA ar ei waith), ffuglen gyfoes, damcaniaeth ac athroniaeth lenyddol. Mae wedi goruchwylio nifer o brosiectau PhD nes iddynt gael eu cwblhau ar foderniaeth ac ysgrifennu cyfoes. Mae'n Gyfarwyddwr Rhaglen yr MA mewn Llenyddiaeth Saesneg ar hyn o bryd ac yn arweinydd adran ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2029). Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhaglen BA, yn Swyddog Arholiadau ac yn Swyddog Derbyn. Mae'n trefnu paneli a phapurau rheolaidd ar gyfer y Grŵp Creadigol-Beirniadol, gan gynnwys sesiynau diweddar ar awtoffuglen, addasiadau, ysgrifennu cwiar a chyfieithu. Yn aml bydd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau allgymorth gydag ysgolion ac ymgysylltu â'r cyhoedd (yma ac yma).

Ymchwil