Trosolwg
Prif ddiddordeb gwyddonol Dr Angelini yw’r cysylltiad rhwng strwythurau cemegol lipidau a’u swyddogaeth fiolegol. Fel rheol, mae’n defnyddio sbectromedreg màs i gynnal astudiaethau lipidomeg fel y cymhwysir hwy i ymchwil biofeddygol. Drwy astudio swyddogaeth fiolegol lipidau, mae’n hyderus y gallwn gynyddu ein dealltwriaeth o fecanweithiau sylfaenol nifer o glefydau.
Derbyniodd Dr Angelini Radd Meistr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bari yn labordy Angela Corcelli lle cafodd hyfforddiant ar ddehongli cyfansoddiad lipidaidd biobilenni celloedd archaeaidd, bacteriol ac ewcaryotig, sy’n agored i addasiadau amgylcheddol gwahanol gan gynnwys straen osmotig, yr ocsigen sydd ar gael, a chysylltiad â chyfansoddion sy’n weithredol yn ffarmacolegol. Yn Labordy Corcelli, datblygodd ddulliau dadansoddol yn seiliedig ar broffilio lipidau ar gyfer gwaith ymchwil biofeddygol a rhaglenni clinigol. Yn ddiweddarach, mireiniodd ei wybodaeth a’i sgiliau technegol mewn sbectromedreg màs yn labordai Valerian Kagan ym Mhrifysgol Pittsburgh a Daniele Piomelli ym Mhrifysgol Califfornia, Irvine.
Dychwelodd i Ewrop gyda Chymrodoriaeth MSCA-COFUND i weithio yn labordy Griffiths-Wang ym Mhrifysgol Abertawe lle datblygodd raglenni sbectromedreg màs i ddelweddu sterolau yn yr ymennydd. Yma derbyniodd ei swydd gyntaf mewn cyfadran a hynny fel Darlithydd (Ymchwil Uwch) yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.