Mrs Sophie Cunningham

Mrs Sophie Cunningham

Uwch-ddarlithydd
Midwifery

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
122
Llawr Cyntaf
Adeilad Vivian
Campws Singleton

Trosolwg

Gwnes gymhwyso fel bydwraig ym mis Medi 2009 fel graddedig Prifysgol Abertawe, ac rwyf yn falch iawn o ddychwelyd i’r Brifysgol i weithio fel aelod o’r tîm addysgu bydwreigiaeth ers 2014.

Ar ôl cymhwyso, gweithiais am gyfnod byr gyda Phractis Bydwreigiaeth Albany yn Peckham, Llundain, sy’n fyd-enwog, cyn i’r cytundeb gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd leol ddod i ben. Roedd hyn yn ‘fedydd tân’ i wleidyddiaeth bydwreigiaeth, ac er bod yn siomedig iawn i beidio â pharhau yn fy swydd ddelfrydol fel bydwraig â llwyth achosion, gwnaeth y profiad hwn fy ysbrydoli mewn ffordd arall ac i weithio ymhellach er mwyn i bob menyw gael y dewisiadau yr oedd y practis yn eu cynnig. Ers hynny, rwyf wedi cael ystod o brofiad mewn amrywiaeth o swyddi gwahanol ym myd bydwreigiaeth, gan symud ymlaen i weithio i Caroline Flint yn ‘The Birth Centre’ yn Llundain, cyn symud i Melbourne ac wedyn i Fryste, ac yn y pen draw yn dychwelyd adref i Abertawe yn 2014.

Mae gennyf gariad anferth at ddarparu cyfleoedd dysgu ac addysgu safon aur i fyfyrwyr, a gwnes gwblhau PGCert mewn Addysg ar gyfer y Proffesiynau Iechyd yn 2016. Yn 2017, enillais wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTA), ar ôl cael fy enwebu gan y myfyrwyr, yr oeddwn mor falch o’i derbyn.

Materion ynghylch dewis sy’n fy ysgogi ym myd bydwreigiaeth – rwyf yn teimlo’n gryf iawn dros hybu dewisiadau ar sail gwybodaeth i fenywod, i’w cynorthwyo yn y penderfyniadau di-rif y bydd gofyn iddynt eu gwneud yn ystod eu cyfnodau beichiogrwydd, geni a rhianta. Yn fy nhyb i, mae hyn yn dechrau gydag addysg ardderchog ar gyfer darpar fydwragedd, trwy eu helpu i ddeall y dystiolaeth sy’n gefn i arfer bydwreigiaeth ac yn eu galluogi felly i gefnogi a galluogi menywod o ran eu gofal. Rwyf yn arwain ein rhaglen addysg gynenedigol a arweinir gan fyfyrwyr ac sydd wedi ennill gwobrau, sef Rhianta Cadarnhaol, a ddarperir yn yr Academi Iechyd a Lles ar y campws. Yn ogystal â darparu’r gwasanaeth di-dâl hwn ar gyfer y gymuned leol, mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i weithio ochr yn ochr â’u hathrawon mewn cyd-destun gwahanol, gan ddysgu a gweithio gyda’i gilydd.

Meysydd Arbenigedd

  • Geni arferol
  • Ffisioleg geni
  • Hypno-eni
  • Dewis ar sail gwbodaeth
  • Addysg Gynenedigol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Geni arferol

Ffisioleg geni

Hypno-eni

Dewis ar sail gwybodaeth

Addysg Gynenedigol

Prif Wobrau