Mae gan Sarah fwy na 15 mlynedd o brofiad ym maes allgymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Hi yw Cyfarwyddwr Addysg Prosiect Telesgop Faulkes, prosiect sy’n seiliedig ar STEM sy’n anelu at ennyn brwdfrydedd disgyblion ysgol ac ymgysylltu â nhw gan ddefnyddio Seryddiaeth fel bachyn. Fel rhan o’i rôl, mae’n rhoi sgyrsiau, gweithdai a datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) i ystod o gynulleidfaoedd, gan gynnwys ysgolion, athrawon a chynulleidfaoedd cyhoeddus.
Mae Sarah hefyd wedi bod ynghlwm wrth brosiectau llai traddodiadol, megis un a oedd yn anelu at gyflwyno gwyddoniaeth i garcharorion drwy gyfrwng Radio Carchardai Cenedlaethol. Ar gyfer y prosiect hwn, aeth Sarah i mewn i garchar fel rhan o banel o arbenigwyr a siaradodd am y gofod i grŵp o garcharorion.
Yn rheolaidd, bydd Sarah yn rhoi sgyrsiau ac yn cyflwyno arddangosiadau mewn amryw o wyliau megis Gŵyl Wyddoniaeth Cheltenham, Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe, Eisteddfodau a Thafwyl.
Yn ei rôl fel arweinydd Cynwysoldeb ar gyfer y Coleg Gwyddoniaeth yn Abertawe, bydd Sarah yn rhoi sgyrsiau a gweithdai mewn digwyddiadau cyhoeddus yn yr ardal leol yn rheolaidd, ac mae hi’n cynnal nifer o gyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol, gan hyrwyddo prosiectau allgymorth ac addysg STEM gynhwysol yn gyffredinol. Rhoddodd sgwrs yng Nghaffi Oriel Gwyddoniaeth sy’n cael ei gynnal gan dîm Oriel Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe. Pwnc ei sgwrs oedd ‘Death From the Skies’ a oedd yn dilyn ei sgwrs lwyddiannus yn dwyn yr un teitl gerbron 600 o fyfyrwyr ysgol fel rhan o ddarlithoedd Nadolig y Brifysgol.
Ar hyn o bryd mae gan Sarah grant ymgysylltu â’r cyhoedd gan y Cyngor Ymchwil Technoleg a Chyfleusterau (SFTC) sy’n paratoi disgyblion ysgol ar gyfer y dasg o chwilio am lwch o’r gofod.