Trosolwg
Mae’r Athro Stephen McVeigh yn Ddeon Cyswllt mewn Addysg yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’n hanesydd diwylliannol ym maes yr Unol Daleithiau yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Mae ei feysydd ymchwil yn amrywiol o fewn y cyfnod hwn o hanes diwylliannol America, ac maent yn cynnwys hanes a mytholeg Gorllewin America, ffilmiau Americanaidd, llenyddiaeth Americanaidd yr 20fed ganrif a ffuglen rad Americanaidd, a Rhyfel a Chymdeithas America.
Mae’n addysgu pynciau mor amryfal â mytholeg y Cyffindiroedd yn hanes a diwylliant America’r 20fed ganrif, Rhyfel Cartref Sbaen, rhyfel diarbed yn yr oes fodern, safbwyntiau rhyngwladol ar ffilmiau propaganda, gwrywdodau Americanaidd, y ‘Ffordd Americanaidd o Ryfela’, terfysgaeth a diwylliant, a chynrychioliadau o ryfel mewn celf, llenyddiaeth a ffilm; ac mae’n cyfrannu at nifer o raglenni israddedig ac ôl-raddedig yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.
Yr Athro McVeigh yw golygydd y gyfres War, Culture and Society, cyfres ymchwil monograff a gyhoeddir gan Bloomsbury. Mae hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol y Journal of War and Culture Studies.
Yr Athro McVeigh yw Cadeirydd RAISE, y rhwydwaith rhyngwladol i ymgysylltu â myfyrwyr.