Trosolwg
Proffil Gwefan
Dr Sarah Elizabeth Williams - Tiwtor Academaidd
Mae Dr Sarah Elizabeth Williams yn Diwtor Academaidd yn Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu, yn Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe. Mae'n Gymrawd Cysylltiol o'r Academi Addysg Uwch ac yn aelod o'r bwrdd academaidd ar gyfer Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar dechnolegau digidol a'u heffaith ar ddiwylliant a chymdeithas, ac mae ei PhD yn canolbwyntio ar ddarpariaethau addysgol am lythrennedd digidol yng Nghymru. Ymysg y prosiectau ymchwil nodedig eraill mae hi wedi gweithio arnynt y mae DRAGON-S (“Developing Resistance Against Grooming Online”) ac ymchwil i sut mae pobl ag amhariad ar y golwg yn mabwysiadu ac yn defnyddio'r cyfryngau digidol: cyn, yn ystod ac ar ôl cyfnodau clo COVID 19.
Mae gan Dr Williams brofiad helaeth o addysgu ynghyd â hanes cryf o feithrin deilliannau dysgu cadarnhaol i fyfyrwyr drwy ddarparu cwricwla creadigol. Am sawl blwyddyn, mae hi wedi bod yn addysgu myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe o’r Flwyddyn Sylfaen i’r lefel Ôl-raddedig. Mae hi wedi addysgu modiwlau amrywiol yn adran y Cyfryngau a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe ac mae'n ymroddedig i hyrwyddo meddwl yn greadigol a thwf deallusol ymhlith ei myfyrwyr.
Yn ogystal â'i harbenigedd damcaniaethol ac academaidd helaeth, mae Dr Williams yn awdur cyhoeddedig ac yn wneuthurwr ffilmiau dogfen arobryn. Mae ganddi flynyddoedd o brofiad o weithio yn y diwydiannau adloniant a chysylltiadau cyhoeddus, lle mae hi wedi rheoli digwyddiadau cymhleth a chreu nifer o fusnesau e-fasnach a'u rhoi ar waith.