Dr Thierry Maffeis

Athro Cyswllt
Yn y modiwl hwn mae myfyrwyr yn canolbwyntio ar reoli lleoliadau clinigol cymhleth gan ystyried elfennau digidol, rheolaeth, gwyddorau ymddygiadol a seicolegol ar y cyd â datblygiadau mewn ymarfer fferylliaeth a gofal fferyllol. Bydd y modiwl yn parhau i adeiladu ar y wybodaeth sylfaenol-wyddonol a'r sgiliau clinigol a ddatblygwyd ym Mlynyddoedd 1 - 3. Mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso fferylliaeth drosiadol (o ochr y fainc i erchwyn y gwely). Nod y modiwl yw annog myfyrwyr i drosglwyddo gwybodaeth o ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau i sefyllfaoedd cymhleth newydd nas gwelwyd o'r blaen. Bydd y dysgu hwn yn cael ei gefnogi gan gyd-destun cadarn o wyddoniaeth i ymarfer fferylliaeth a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy addysgu a dysgu trawsddisgyblaethol ac amlygiad clinigol helaeth yn ymarferol ac yn y Gyfres Sgiliau Fferylliaeth.

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602234
319
Trydydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar wneuthuriad a nodweddion nanostrwythurau sinc ocsid a’u priodweddau arwynebol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau yn cynnwys allyriadau maes SEM, sbectrosgopeg ffoto-electron pelydr X, microsgopeg sganio chwiliedydd a ffoto-ymoleuedd. Fy mhrif ddiddordeb yw effaith cemeg arwyneb ar briodweddau trydanol ac optegol nanostrwythurau sinc ocsid a sut y gallant gael eu rheoli i wella dyfeisiadau sy’n synhwyro nwy.

Meysydd Arbenigedd

  • Nanostrwythurau Sinc Ocsid
  • Gwyddorau Arwyneb
  • Synhwyro Nwy
  • Sbectrosgopeg ffoto-electron pelydr X
  • Microsgopeg cryo-electron