Trosolwg
Mae gan Dr Tania Wiseman 23 mlynedd o brofiad fel addysgwr therapi galwedigaethol. Mae hi'n ymgymryd yn ddwys â datblygiad dysgu, gan ofyn cwestiynau sy'n annog cwestiynu. A hithau bob amser yn heriol, bob amser â hiwmor, mae diddordeb gwirioneddol ganddi yn y ffordd y mae dealltwriaeth yn datblygu. Mae hi'n angerddol am asesiadau sy'n addysgu yn hytrach nag yn profi, ac felly mae'n hynod o lwcus i addysgu'n bennaf ar gwrs a ategir gan theori dysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gyda thiwtorialau grŵp-bach rhyngweithiol o safon wrth wraidd yr addysgu, gan roi sylw i broblemau'r byd go iawn gyda'n gilydd, a dysgu fel rhan o dîm.
Mae hi hefyd yn defnyddio dulliau dysgu cyfunol i gefnogi amser 'yn yr ystafell', mewn sesiynau tiwtorial, ac wrth gefnogi sesiynau tiwtorial e.e. fideos 'You-Tube' er mwyn hwyluso trafodaethau, rhannu gwybodaeth ddamcaniaethol drwy sesiynau arbenigol pynciau a chyflwyniadau wedi'u recordio a llywio darllen gyda rhestrau darllen digidol. Mae adnoddau dysgu digidol wedi'u datblygu i ysgogi ymgysylltu emosiynol â dysgu, gyda chyfres efelychu newydd i ychwanegu creadigrwydd. Mae hi'n credu bod tosturi a chariad at ddysgu yn hanfodol er mwyn cael gyrfa werth chweil, a'i nod yw creu gofod i'r priodoleddau hyn ddatblygu yn y dysgwyr y mae hi'n eu cefnogi.