Dr Troy Astarte

Dr Troy Astarte

Darlithydd, Computer Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602813

Cyfeiriad ebost

407
Pedwerydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Ymunodd Dr Troy Kaighin Astarte â Phrifysgol Abertawe fel darlithydd (yn canolbwyntio ar addysgu uwch) ym mis Hydref 2021. Mae ymchwil Troy yn ymwneud yn bennaf â dau faes hyd yn hyn, sef hanes cyfrifiadureg ag agweddau ffurfiol ar gyfrifiadura. Mae addysgeg cyfrifiadureg yn faes diddordeb sy'n tyfu. Mae’n gyfarwyddwr rhaglen y radd BSc Technoleg Ddigidol newydd a fydd yn croesawu myfyrwyr ym mis Medi 2024.

Ym mis Mai 2024, ymgymerodd Troy â rôl Prif Olygydd y cyfnodolyn, IEEE Annals of the History of Computing.

Mae Troy yn aelod o Bwyllgor Hanes yr ACM (y Gymdeithas ar gyfer Peiriannau Cyfrifiadura), Pwyllgor Hanes Cymdeithas Cyfrifiaduron IEEE, a Phwyllgor Cyfrifiadura Hanesyddol Prifysgol Newcastle. Mae’n awyddus i agor Casgliad Hanes Cyfrifiadura Prifysgol Abertawe at ddibenion ymchwil ac addysgu sy'n canolbwyntio ar wrthrychau. Mae Troy yn aelod o’r grŵp ymchwil ryngddisgyblaethol PROGRAMme sy'n ystyried y cwestiwn “Beth yw rhaglen?” o safbwynt hanesyddol, athronyddol a thechnegol.

Fel unigolyn sydd heb rywedd penodol (rhagenwau Saesneg: ‘they/them’), mae Troy yn gwerthfawrogi teitlau ac enwau niwtral o ran rhywedd. Hoffai gael ei nabod fel ‘Troy’ neu, mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol, ‘Dr Troy’. Peidiwch â defnyddio ‘athro’ neu ‘syr’. 

Meysydd Arbenigedd

  • • Hanes Cyfrifiadura
  • Yr Adran Gyfrifiadureg
  • Hanes Data
  • Technoleg a Chymdeithas
  • Hanes Llafar
  • Semanteg Ffurfiol
  • Ieithoedd Rhaglennu
  • Modelu nodweddion cyfredol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cyfarwyddwr y Rhaglen:

  • BSc Technoleg Ddigidol

Yn addysgu'r canlynol ar hyn o bryd:

  • CS-115: Rhaglennu 2
  • CS-119: Dyfeisiau Digidol

Wedi addysgu:

  • CSC306(B): Ysgrifennu apiau ffonau symudol
  • CSC3321: Deall Ieithoedd Rhaglennu (Prifysgol Newcastle)

Yn bwriadu goruchwylio prosiectau yn y meysydd arbenigedd a nodwyd uchod.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau