Trosolwg
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio'n fras ar effeithiau heriau amgylcheddol ar iechyd anifeiliaid ac ecosystemau. Rwy'n defnyddio dulliau moleciwlaidd er mwyn egluro mecanweithiau effaith niweidiol a hefyd er mwyn canfod a all organeddau addasu at newidiadau yn eu hamgylchedd, a sut. Yn benodol, mae gennyf ddiddordeb mewn archwilio'r potensial ar gyfer ymatebion ymaddasol cyflym i straenachoswyr amgylcheddol, megis y rhai drwy gyfrwng microbïomau sy'n lletya a mecanweithiau epigenetig.