Trosolwg
Mae Dr William Bennett yn ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe. Cwblhaodd MEng mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe, ac wedi hynny PhD mewn Peirianneg Sifil yn ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar lifogydd ac erydu arfordirol. Mae ei ymchwil yn cynnwys modelu prosesau hydrodynamig a morffolegol mewn cyd-destunau arfordirol, gan gynnwys rhyngweithiadau â natur, newidiadau mewn defnydd tir a rheoli risg llifogydd. Mae William yn addysgu myfyrwyr peirianneg israddedig ac ôl-raddedig ac mae'n angerddol am wreiddio a datblygu sgiliau drwy'r rhaglenni gradd.