Trosolwg
Mae Dr Zari Tehrani yn meddu ar BSc, MSc, MBL, MRes, PhD mewn Nanodechnoleg ac mae'n Aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (MRSC). Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi meithrin rhwydwaith eang o gydweithredwyr diwydiannol ac academaidd ac mae hi wedi ysgogi arloesi yn ei phrosiectau, yn benodol, drwy ddatblygu biosynhwyrydd graffîn cyntaf y byd a thrwy ddatblygu batri ffilm denau ailwefradwy cyntaf y byd, y mae pob rhan ohono wedi cael ei hargraffu.
Fel rhan o'i Huwch-gymrodoriaeth Ymchwil Sêr Cymru, a ddyfarnwyd yn 2017, gwnaeth hi arwain ac ysgogi ei hymchwil ei hun i synwyryddion platfform argraffadwy at ddibenion diwydiannau amgylcheddol, bwyd a meddygol.
Yn fwyaf diweddar, fel Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Gemegol ac fel Uwch-gymrawd Diwydiannol gyda'r Academi Frenhinol Peirianneg, mae hi wedi dod o hyd i her newydd - sef datblygu Polymerau Electrolytau Gel i'w defnyddio mewn batris ionau sodiwm ar raddfa fawr ar y cyd â phartneriaid diwydiannol. Drwy gyfuno profiad helaeth o ddyfeisiau electronig argraffadwy, cemeg polymerau ac electrocemeg ag 17 mlynedd o brofiad o nodweddu arwynebau a chemeg, bydd hi'n gweithio ar ddatgloi technoleg allweddol ac ysgogi'r chwyldro trydanol. Mae ei hanes yn brawf o'i gallu i addasu a mynd i’r afael â meysydd gwyddonol gwahanol yn llwyddiannus.
Detholwyd Zari i fod yn rhan o'r rhaglen arobryn Crwsibl Cymru yn 2023, sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.