Os oes gennych chi drwyn am stori, yna gall Swyddfa’r Wasg Prifysgol Abertawe gael cyswllt i chi gyda’n hacademyddion, ymchwil arloesol, a straeon eraill o bob cwr o’r Brifysgol.
-
1 Ebrill 2025Cwrs Adfer Morol cyntaf y byd yn cychwyn yn Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe yn lansio'r radd MSc gyntaf yn y byd mewn Adfer Morol. Bydd hyn yn arfogi graddedigion â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael ag un o heriau amgylcheddol mwyaf ein hoes ni - adfer ecosystemau cefnforoedd.
-
1 Ebrill 2025Canolfan genedlaethol newydd ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed wedi'i lansio yng Nghymru
Mae Canolfan Genedlaethol Cymru ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed wedi'i lansio, gan nodi carreg filltir arwyddocaol wrth fynd i'r afael ag un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf dybryd y genedl.