Beth yw Galluogi Perfformiad?
Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i ddiwylliant o Alluogi Perfformiad sy’n anelu at gefnogi a galluogi gweithwyr i gyflawni eu potensial, llwyddo yn eu rolau ac felly’n cyflawni themâu strategol allweddol y Brifysgol.
Mae Galluogi Perfformiad yn amrediad o ddulliau cysylltiedig a fydd yn:
- Egluro disgwyliadau rôl a safon perfformiad gofynnol y gweithwyr.
- Sicrhau bod y gweithiwr yn glir o ran yr amcanion sefydliadol allweddol a'u rhan wrth gyfrannu at gyflawni’r rhain.
- Darparu'r cymorth, yr adborth, yr hyfforddiant a’r sgiliau priodol i alluogi'r unigolyn i berfformio i'w lefel uchaf.
- Dileu unrhyw rwystrau sy'n atal unigolyn rhag perfformio.
- Dangos bod gweithwyr sy'n perfformio'n dda yn cael eu cydnabod a bod y rhai sy'n tanberfformio yn cael eu herio.