Beth yw Llwybrau Gyrfa Academaidd (ACP)?
Nod y Llwybrau Gyrfa Academaidd yw sicrhau bod cryfderau academaidd ar draws ystod eang o weithgareddau, megis ymchwil, addysgu, profiad y myfyrwyr, arloesi, ymgysylltu, menter, arweinyddiaeth, rheolaeth a cholegoldeb ehangach yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo'n briodol.
Mae pob cydweithiwr academaidd ar bob lefel, o Ddarlithydd i Athro, yn cael llwybr penodol. Mae meini prawf y Llwybrau Gyrfa Academaidd yn nodi'r gweithgarwch a'r cyflawniadau sy'n ofynnol gan gydweithwyr ar bob lefel, ar bob llwybr ac maen nhw'n sail ar gyfer gwneud penderfyniadau clir a thryloyw wrth recriwtio academaidd, ADP academaidd, dyrchafiad academaidd a chydnabyddiaeth ariannol athrawon.
Diben yr ymagwedd hon yw cefnogi'r holl staff academaidd i weithio i'w potensial llawn, drwy sicrhau bod y gofynion er mwyn gweithio ar bob lefel ac ar bob llwybr yn glir ac yn dryloyw i bawb, sy'n sail gyson er mwyn gwneud penderfyniadau a rhoi adborth.
Y Llwybrau a'r Meysydd Gweithgarwch
Mae 3 llwybr:
• Addysg
• Addysg ac Ymchwil (sy'n rhannu i 2 linyn, gan ddibynnu ar ba faes gweithgarwch y mae cydweithwyr yn canolbwyntio mwy arnynt)
- Addysg ac Ymchwil (addysg)
- Addysg ac Ymchwil (ymchwil)
• Ymchwil
Diffinnir gofynion ar gyfer pob llwybr a lefel a'u hasesu ar draws 4 maes gweithgarwch:
• Addysg
• Ymchwil
• Arloesi, Ymgysylltu a Mentergarwch
• Colegoldeb, Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Gwasanaeth
Y Meini Prawf
1. Llwybr Addysg
2. Meini Prawf Llwybr Addysg ac Ymchwil (Llinyn Addysg)
3. Meini Prawf Llwybr Addysg ac Ymchwil (Llinyn Ymchwil)
4. Meini Prawf Llwybr Ymchwil
Dolenni Defnyddiol
• Polisi Llwybrau Gyrfa Academmaid
Cysylltiadau Defnyddiol
Brian Knaggs
Tîm Trawsnewid Ystwyth