Cymuned sy'n ffynnu
Mae’r Ganolfan Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil i faterion troseddu a chyfiawnder yn Ysgol Reolaeth Hillary Rodham Clinton. Gyda chefnogaeth gwaith y gymuned fywiog o ymchwilwyr academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig, mae'r Ganolfan yn ymdrechu i gynhyrchu allbynnau dylanwadol o safon ar draws amrywiaeth eang o bynciau. Mae ein gwaith yn adlewyrchu ymagwedd feirniadol a rhyngddisgyblaethol sy'n creu effaith yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ehangach ac yn rhyngwladol.
Mae ein meysydd presennol o ymchwil yn cynnwys:
- Troseddeg a Hawliau Dynol
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Hawliau plant
- Gwaith rhyw
- Cam-drin ac ecsbloetiaeth rywiol
- Carchardai, diwygio cosbol a'r gosb eithafol
- Polisi Cyffuriau
Yn ychwanegol at ymchwil a chyhoeddi, mae'r Ganolfan yn ymroddedig i wella'r amgylchedd dysgu ac addysgu yn Ysgol y Gyfraith. Rydym yn trefnu seminarau ymchwil rheolaidd, trafodaethau paneli a grwpiau adborth, derbyn siaradwyr gwadd a meithrin perthnasoedd gweithio â'r llywodraeth a phartneriaid cymdeithas sifil yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol.