Ceir amrywiaeth o gymorth ariannol i'ch helpu i ymgymryd â rhaglen broffesiynol.
Bwrsariaethau
Ceir dewis o fwrsariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr amser llawn a myfyrwyr rhan-amser fel a ganlyn.
Amser llawn:
- Graddedigion LLB Prifysgol Abertawe: £2,000
- Cyn-fyfyrwyr prifysgolion yng Nghymru: £1,500
- Graddedigion GDL Prifysgol Abertawe: £2,000
Rhan-amser:
Mae'r un bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr rhan-amser, ond mae 50% yn cael ei dalu ym mlwyddyn 1 a 50% ym mlwyddyn 2.
Sylwer bod y bwrsariaethau presennol sy’n cael eu harddangos ar gyfer y flwyddyn academaidd 23/24 a gallent newid yn y dyfodol.
Ysgoloriaethau
Mae ein Hysgoloriaethau Ysbrydoli Dyfodol Disglair ar gael i fyfyrwyr ar ein rhaglenni LLM, ond cofiwch ystyried yn ofalus yr opsiwn a fyddai o fudd i chi fwyaf, oherwydd efallai na fyddwch yn gymwys i gyfuno opsiynau gwahanol o ran ysgoloriaethau a bwrsariaethau.
Cyllid Myfyrwyr
Mae ein 3 rhaglen LLM broffesiynol yn gymwys am fenthyciadau ôl-raddedig a addysgir drwy Gyllid Myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr, gan ddibynnu ar eich cyfeiriad cartref. Rydym yn eich annog i ymweld â'u gwefannau i ddysgu rhagor am sut y gallai'r cyllid sydd ar gael weithio i chi.