Dysgwch sgiliau newydd mewn ffug lys yn Abertawe

Yma yn Ysgol y Gyfraith mae gennym ystod fanwl a chynyddol o gyfleoedd dysgu drwy brofiad. Mae dysgu drwy brofiad yn dechneg ddysgu ymarferol, sy'n eich galluogi i roi damcaniaeth ar waith, ac ennill sgiliau amhrisiadwy a fydd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r ffug lys barn, a chystadlaethau eraill gan gynnwys Negodi, Cyfweld â Chleientiaid, a Chyfryngu, yn rhan allweddol o'n cyfres o ddysgu drwy brofiad, a bydd yn eich helpu i fagu hyder, sgiliau cyfathrebu, sgiliau ymchwil, a gall helpu i wella eich rhagolygon cyflogadwyedd.

Mae ein myfyrwyr wedi cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau, ac wedi mwynhau llwyddiannau mewn llawer ohonynt. Defnyddiwch y dolenni isod i ddysgu rhagor am ein llwyddiannau, a'r cyfleoedd ffug lys barn sydd ar gael i chi yma ym Mhrifysgol Abertawe.