Blog yr Athro Karen Morrow
Mae'r GHRRG wedi ychwanegu ei lofnod at lythyr y Glymblaid dros yr Hawl i Amgylchedd Glân, Iach a Chynaliadwy yng Nghyngor Ewrop (y Glymblaid) sy'n galw ar Gyngor Ewrop i fabwysiadu protocol ychwanegol at y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol 1950 (ECHR) ar yr hawl i amgylchedd glân, iach a chynaliadwy. Yr ECHR yw'r ddogfen hawliau dynol ranbarthol ar gyfer Ewrop ac mae'n berthnasol i'r 46 o wladwriaethau sy'n rhan o Gyngor Ewrop.
Mae'r Glymblaid yn denu cefnogaeth gan amrywiaeth eang o sefydliadau, sy'n cynrychioli sectorau amrywiol o gymdeithas sifil a llawer o fudiadau cymdeithasol, gan gynnwys undebau llafur, sefydliadau pobl frodorol, cyrff anllywodraethol sy'n canolbwyntio ar rywedd, rhwydweithiau ieuenctid, cymunedau ffydd, sefydliadau academaidd a mwy.
Pam nawr?
Momentwm newydd ar gyfer targedu mabwysiadu hawl amgylcheddol o dan yr ECHR
Gan ystyried bod yr ECHR wedi cael ei fabwysiadu yn y 1950au, cyn i amgylcheddaeth fodern ddatblygu'n fater cymdeithasol a gwleidyddol prif ffrwd, nid yw’n syndod nad yw'n darparu’n benodol ar gyfer materion hawliau dynol sy'n gysylltiedig â materion amgylcheddol. Fodd bynnag, o'r 1990au ymlaen, gan adlewyrchu pryder cynyddol a chyson y cyhoedd yn y maes hwn, mae unigolion wedi codi llawer o hawliadau sy'n seiliedig ar bryderon amgylcheddol yn y system ECHR.
I fynd i'r afael â hyn, mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi defnyddio'r ymagwedd 'offeryn byw', i sicrhau bod y Confensiwn yn ymaddasu i anghenion cymdeithasol, drwy ddehongli hawliau sydd eisoes yn bodoli i ganiatáu i hawliadau gael eu trin yn effeithiol lle bynnag y bo'n bosib. Yn achos hawliadau ar sail yr amgylchedd, mae Erthygl 8 (sef yr hawl i gael parch ar gyfer bywyd preifat a bywyd teuluol) yn benodol wedi chwarae rôl amlwg yn hyn o beth, wrth i'r Llys fynegi’r farn yn gyson y gall dirywio amgylcheddol ymyrryd â gallu unigolyn i arfer ei hawliau o dan y Confensiwn. Daliwyd gwladwriaethau'n gyfrifol am eu gweithgareddau eu hunain ac (yn fwy aml) am eu methiant i reoleiddio gweithredoedd cyrff eraill yn effeithiol. Mae ymagwedd y Llys wedi cyflawni llawer – ond mae ganddi gyfyngiadau amlwg hefyd, yn enwedig y broblem anochel o i ba raddau y gellir cymhwyso'r ymagwedd hon, sy'n dibynnu ar yr hawliadau sy'n cael eu dadlau yn y llys a pha mor bell y gall 'dehongli' estyn cymhwysiad erthyglau'r Confensiwn a gafodd eu llunio i fynd i'r afael â phryderon eraill.
Felly, cafwyd galwadau hirsefydlog ar Gyngor Ewrop i fabwysiadu ymagwedd fwy systematig drwy ymgorffori hawliau dynol amgylcheddol yn benodol yng nghyfundrefn yr ECHR. Mae Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop (PACE) bob amser wedi gweithio’n ddiwyd ac yn gyson yn y maes hwn ers diwedd y 1990au. Mae'r gymdeithas sifil hefyd wedi cymeradwyo gweithio i ddiwygio cyfundrefn y Confensiwn ers peth amser. Hyd yn hyn, ni chymerwyd unrhyw gamau gweithredu ar y galwadau hyn.
Felly, pam byddai pethau'n wahanol nawr?
Yn gyntaf, mae'r hyn y mae'r Cenhedloedd Unedig wedi'i enwi'n argyfwng planedol triphlyg (newid yn yr hinsawdd, llygredd a cholli bioamrywiaeth) eisoes yn amharu ar hawliau dynol pobl yn fyd-eang. Bydd yn parhau i wneud hyn drwy gydol oes pobl ifanc heddiw a chenedlaethau'r dyfodol. Nid yw Ewrop yn eithriad i hyn. Mae dirywio amgylcheddol yn achosi llawer o effeithiau niweidiol amrywiol ar hawliau dynol, gan gynnwys bygythiadau uniongyrchol i fywyd, iechyd corfforol a meddwl a diogelwch bwyd a dŵr er enghraifft yn ogystal â bygythiadau anuniongyrchol i ddiwylliant ac addysg, er enghraifft. Ac fel mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod, y rhai sydd eisoes yn dioddef waethaf o effeithiau anghydraddoldeb yw'r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed yn sgîl yr effeithiau niweidiol hyn.
Yn ail, mae gweithgarwch cyson wedi cael ei gynnal yn fyd-eang ynghylch yr hawl i amgylchedd glân, iach a chynaliadwy mewn blynyddoedd diweddar, gan arwain at gymeradwyo hyn ym mhenderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym mis Gorffennaf 2022. Cymeradwyodd y rhan fwyaf o wladwriaethau Cyngor Ewrop benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol. Gwnaeth Cyngor Ewrop, yn Natganiad Reykjavik 2023, gydnabod yr argyfwng planedol triphlyg ac ymrwymodd i ‘atgyfnerthu ein gwaith ar agweddau hawliau dynol ar yr amgylchedd … yn unol â Phenderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig’ – ond, a gall hyn fod yn achos pryder, mae'n ystyried hyn yn fater gwleidyddol yn hytrach na thasg gyfreithiol.
Mae Ewrop wedi bod ar ei hôl hi o'i chymharu â deddfwriaeth hawliau dynol rhanbarthau eraill o ran ei thriniaeth o hawliadau amgylcheddol ers degawdau. Er enghraifft, mabwysiadodd y Siarter Affricanaidd ar Hawliau Dynol a Hawliau Pobl a Phrotocol San Salvador i'r Confensiwn Americanaidd ar Hawliau Dynol hawliau dynol amgylcheddol yn y 1980au. Yng ngoleuni datblygiadau diweddar ledled y byd, mae ymgyrch y Glymblaid yn amserol wrth amlygu gwrthwynebiad cynyddol anghynaladwy Cyngor Ewrop i'r galwadau am brotocol ychwanegol a'i daerineb am gyfyngu'r gwaith o fynd i'r afael â’r materion hyn i'r byd gwleidyddol.
Byddai mabwysiadu darpariaeth gyfreithiol newydd ar gyfer yr hawl i amgylchedd glân, iach a chynaliadwy yn yr ECHR yn adeiladu ar y gwaith gwerthfawr sydd eisoes wedi cael ei wneud gan Lys Hawliau Dynol Ewrop yn y maes hwn ac yn caniatáu gwaith i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol. Yr un mor bwysig, byddai hefyd yn dangos bod gwladwriaethau Cyngor Ewrop yn ymuno â chyfundrefnau dynol rhanbarthau eraill ac yn cymeradwyo'r ymrwymiad byd-eang i ystyried effaith yr argyfwng planedol triphlyg ar hawliau dynol o ddifrif. Mae'n hen bryd.