Dadwneud Datganoli drwy'r Drws Cefn? Goblygiadau Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas
Dydd Llun 11 Gorffennaf 2022, 10:30am tan 6.30pm
Adeilad Richard Price, Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP
Bydd y gynhadledd undydd hon, a ariennir gan Gronfa Prosiectau Bach a Digwyddiadau Cymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol, yn canolbwyntio ar effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig ar drefniadau datganoli'r Deyrnas Unedig a all fod yn bellgyrhaeddol. Mae'r digwyddiad yn dod ag ystod o safbwyntiau a disgyblaethau ynghyd i drafod effeithiau cyfreithiol, gwleidyddol, economaidd ac effeithiau eraill y Ddeddf ar ddatganoli a llywodraethu datganoledig.
Siaradwyr a gadarnhawyd:
Rick Rawlings (UCL)
Budd Brexit? Myfyrdodau ar ail-reoleiddio
Harry Thompson (Sefydliad Materion Cymreig)
Wedi'i sefydlu i fethu: Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig mewn cyd-destun, llywodraethu economaidd yng Nghymru ar hyn o bryd a ble y mae angen iddo fod
Jo Hunt (Caerdydd)
Fframweithiau Cyffredin: Llywodraethu'r Farchnad Fewnol drwy Gydweithredu yn hytrach na Gwrthdaro?
Jan Zglinski (LSE)
Marchnad Fewnol Newydd y Deyrnas Unedig: Hawliau, Gwleidyddiaeth a Datganoli
Anurag Deb (QUB) a Nicholas Kilford (Caergrawnt)
UKIMA 2020, Datganoli a Natur Cymhwysedd
Gareth Evans (Abertawe)
Datganoli a Dyfarniadau Datganiadol
Lisa Whitten (QUB)
Gogledd Iwerddon a Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig: yr eithriad sy'n gwrthbrofi'r rheolau?
Chris McCorkindale (Strathclyde)
Rheoleiddio heb gydsyniad: Deddf y Farchnad Fewnol a Datganoli
Gallwch gofrestru am ddim ar gyfer presenoldeb ar y safle neu bresenoldeb ar-lein.