Dr Aygun Mammadzada
LLB (Prifysgol Wladol Baku), LLM mewn Cyfraith Busnes Ryngwladol a PhD (Soton), Cyfreithiwr Cymwys (Gweriniaeth Azerbaijan).
Ymunodd Aygun â’r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) ym mis Awst 2022. Cyn ymuno â’r IISTL, bu'n ddarlithydd rhan-amser ym Mhrifysgol Bournemouth, yn gynorthwy-ydd addysgu ym Mhrifysgol Southampton ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Wladol Baku.
Mae wedi cael amryw gymrodoriaethau mewn sefydliadau gwahanol yn Ewrop ac mae'n Rheolwr Olygydd Global Constitutionalism a gyhoeddir gan Cambridge University Press. Mae'n gyfreithiwr cymwys yng Ngweriniaeth Azerbaijan a chyn ei hastudiaethau PhD, bu'n gyfreithiwr yng Ngweinyddiaeth Addysg Gweriniaeth Azerbaijan, yn Swyddog Prosiectau Rhyngwladol a Chyfreithiol Gweinyddiaeth Prosiect Gefeillio a Rhaglen Gyfnewid Erasmus+ y Comisiwn Ewropeaidd, yn ogystal ag ymarfer y gyfraith mewn sawl cwmni cyfreithiol yn Azerbaijan.
Mae ei phrif waith ymchwil yn canolbwyntio ar fusnes rhyngwladol, cyfraith fasnachol a morwrol, cyfreithiau gwrthdaro masnachol, cyfraith eiddo deallusol, datrys anghydfodau, gan gynnwys cyflafareddu ac ymgyfreitha, yn ogystal â digideiddio, arloesi a thechnoleg gyfreithiol.